About Eglwys Sant Meugan, Llanrhudd

Religion, Churches, Interesting Places, Other Churches

Eglwys Sant Meugan (neu ar lafar: Eglwys y Thelwalls) yw mam-eglwys Rhuthun, Plwyf Llanrhudd, Sir Ddinbych sy'n adeilad rhestredig Gradd I (Cyfeirnod grid:NGR SJ140577). Un siambr yw hi, ac mae'n dyddio i'r 13g gydag ychwanegiadau yn y 15g ac felly tipyn hŷn nag Eglwys Sant Pedr yng nghanol y dref. Roedd eglwys yma o’r 7g ond mae’r adeilad presennol yn dyddio o’r 15g yn unig. Saif ym mhlwyf a chymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd. Yn y Llyfrgell Genedlaethol, ceir gweithredoedd tir dyddiedig Hydref 1322 sy'n dangos iddynt gael eu rhoi i William de Thelwalle gan John de Grey o Wilton ("in campo de Llanrhuth"). Gwnaed hyn gyda chaniatâd Syr Hugh, Rheithor Llanrhudd, a benodwyd yn Warden cyntaf. Un o deulu Seisnig y 'de Greys' oedd y perchennog, teulu a fu'n allweddol ym mrwydr Lloegr i goncro Cymru. Mae'r amrywiaeth cerrig yn waliau'r eglwys, heddiw'n ymddangos yn frithwaith tameidiog o wyn a choch, yn dwyllodrus felly, gan mai'r arferiad (tan yn ddiweddar) oedd gwyngalchu'r waliau tu allan, fel y gwelir yng nghofnodion taliadau'r eglwys.

Source From: Wikipedia
Denbighshire, Wales, United Kingdom, LL15 1EG

Nearest places in Eglwys Sant Meugan, Llanrhudd