About Pont-y-Pair

Bridges, Architecture, Interesting Places, Other Bridges

Pont hynafol ar Afon Llugwy yn Eryri yw Pont-y-Pair. Mae'n sefyll yng nghanol pentref Betws-y-Coed yn Sir Conwy. Mae'r enw yn cyfeirio at y "pair" o ddŵr oddi tanodd lle mae'r Afon Llugwy yn ymgasglu ar ôl disgyn rhwng y creigiau. Mae'n cludo'r ffordd B5106 (Conwy - Betws-y-Coed) dros yr afon i gyffordd ar yr A5.

Rhywbryd yn y 15g, efallai, codwyd pont gerrig dros Afon Llugwy yn y man lle ceir pentref Betws-y-Coed (dim ond yr eglwys ac ychydig o dai oedd yno yn y 15g). Fe'i priodolir gan rai i'r pensaer Cymreig Inigo Jones weithiau, ond mae hi'n hŷn na hynny.

Mae gan y bont gerrig hon bump bwa, gyda'r un sydd yn ei chanol yn rhychwantu'r geunant ddofn islaw. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.

Source From: Wikipedia
Pentre Felin, Conwy, Wales, United Kingdom, LL24 0BW

Nearest places in Pont-y-Pair