About Tŷ Hyll

Historic Architecture, Architecture, Interesting Places, Other Buildings And Structures

Bwthyn hynafol yn Eryri yw'r Tŷ Hyll, sy'n gorwedd ar bwys y ffordd A5 tua hanner ffordd rhwng Capel Curig a Betws-y-coed ar gwr Coedwig Gwydir. Cyfeirnod AO: SH 756 576. Mae'n bencadlys Cymdeithas Eryri. Mae ar agor i'r cyhoedd ac yn denu nifer o ymwelwyr.

Mae'r "Tŷ Hyll" yn enghraifft brin o dŷ unnos yng Nghymru. Ni wyddom lawer am ei hanes cynnar, ond yn ôl traddodiad cafodd ei adeiladu gan ddau frawd ar herw yn y 15g. Yn ôl yr hen arfer, pe bai rhywun yn medru codi pedwar wal rhwng machlud yr haul a'r wawr a chael mŵg yn dod allan o'r simnai erbyn y bore roedd ganddo hawl i'r adeilad a'r tir o'i gwmpas, a gafwyd trwy daflu bwyall i'r pedwar ban a hawlio'r tir rhwng y pedwar pwynt hynny.

Source From: Wikipedia
A5, Conwy, Wales, United Kingdom, LL24 0DS

Nearest places in Tŷ Hyll